Mae'r pecyn adnoddau hwn yn tynnu ynghyd rai o'r offerynnau ymgysylltu artistig a gwyddonol mwyaf effeithiol a ddatblygwyd gan brosiect Gwiberod Gwych! Nid yw pob un yn newydd sbon, a gellid datblygu nifer ohonynt ymhellach, i'w defnyddio ar gyfer ystod llawer ehangach o 'rywogaethau heriol' eraill efallai, er enghraifft amffibiaid ac infertebratau. Yn ystod y prosiect a ariennir, llwyddom i gefnogi llawer o grwpiau a oedd eisiau cymryd rhan, ond yr oedd eu hadnoddau yn brin fel arall. Rydym yn cydnabod bod cost yn gallu bod yn rhwystr sylweddol wrth geisio ymgysylltu, ac felly rydym yn cyflwyno dewis o weithgareddau er mwyn rhoi digon o opsiynau i chi, gan ddibynnu ar eich cyllideb a'r math o grŵp yr ydych yn gweithio gydag ef.
Gyda phobl ifanc (taflenni gweithgaredd coch: 3-7 oed, a gwyrdd: 8+ oed) gwelsom mai'r gweithgareddau mwy 'ymarferol' neu weledol oedd fwyaf llwyddiannus. Gyda’r grwpiau hyn, er enghraifft Prifysgol y Drydedd Oes, Sefydliad y Merched a chynghorau cymuned (taflenni gweithgaredd glas), mae cynnig cyflwyniad neu grŵp ffocws i drafod pryderon am wiberod a sut i helpu'r gymuned, yn gallu bod yn hynod o effeithiol. Credwn fod gweithio gyda phob aelod o'r gymuned, waeth beth yw eu hoed, rhywedd, amgylchiadau ariannol, anabledd, ethnigrwydd, neu lawer o'r gwahaniaethau eraill sydd gennym, yn bwysig iawn. Yma, rydym yn cynnig gweithgareddau y gellir eu datblygu wrth weithio gyda phob grŵp.
Gobeithiwn y bydd y pecyn hwn yn tanio eich dychymyg ac yn cynnig syniadau ar gyfer prosiectau ymarferol i'w gweithredu yn eich ardal chi, er mwyn eich helpu i godi ymwybyddiaeth am wiberod a newid dirnadaeth y cyhoedd am yr anifeiliaid anhygoel hyn, cyn i ni eu colli am byth. Mae rhwydd hynt i chi argraffu'r adnoddau, eu llungopïo a'u dosbarthu fel y mynnwch. Defnyddiwch nhw ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus, cyflwyniadau neu waith ymgysylltu mewn ysgolion. Gobeithiwn y byddant o fudd i chi a gwerthfawrogwn eich adborth