Yn ystod ein gwaith Gwiberod Gwych!, buom yn gweithio gyda grŵp gwnïo Tyddewi, The Stitchy Witches, a grwpiau Sefydliad y Merched, i greu cwilt 'gwiberod' hudolus. Buom yn gweithio gyda'r artist ffabrig Sian Lester, gan dreulio deuddydd yn creu ffabrigau wedi eu lliwio â llifynnau naturiol o blanhigion a geir yng nghynefin y wiber. Ar gyfer y broses hon, aethom allan fel grŵp i gasglu'r planhigion o ymylon heolydd a llwyni, ac yna dychwelyd ar gyfer sesiwn gweithdy dan do i dynnu'r llifynnau o'r planhigion a pharatoi a lliwio'r darnau ffabrig. Mae'r gweithgaredd hwn yn gweithio'n arbennig o dda i dynnu pobl ynghyd; i'w helpu i feddwl am yr amgylchedd naturiol lle mae'r gwiberod yn byw; a chreu rhywbeth hardd i ddathlu a lledaenu neges bositif am y wiber.