Efallai eich bod yn gweithio mewn lleoliad lle nad ydych yn debygol o weld unrhyw ymlusgiaid ar y safle gyda’r grŵp, er enghraifft, os ydych wedi eich cyfyngu at dir yr ysgol neu nid ydych yn gallu mynd i gefn gwlad am resymau eraill. Os felly, gall y gêm hon fod yn gyflwyniad defnyddiol i'r lleoliadau ble mae gwiberod yn byw, ac mae'n addysgu plant lle y gallent chwilio am wiberod pan fyddant allan yn yr awyr agored yn eu hamser eu hunain. Cuddiwch y gwiberod cardfwrdd cyn i chi gwrdd â'r grŵp, mewn mannau lle y byddech yn disgwyl iddynt fod (wrth ymylon y llwyni, mewn rhedyn ac o amgylch pentyrrau o foncyffion, er enghraifft). Ysgrifennwch gwestiynau gwir neu gelwydd sy'n gysylltiedig â gwiberod, ar y cefn, er mwyn ychwanegu gwerth addysgiadol a hwyl!